Mimosa Cegin a Bar yng nghalon Bae Caerdydd
Bar modern a chwaethus gyda phwyslais gref ar fwyd lleol o safon uchel
Datganiad Preifatrwydd
Mae Poco Bara Cyf. wedi creu'r datganiad preifatrwydd hwn er mwyn dangos ein hymrwymiad cadarn i breifatrwydd. Mae'r canlynol yn datgelu'r arferion casglu a dosbarthu gwybodaeth ar gyfer y wefan hon: www.mimosacegin.co.uk
Nid yw'r datganiad hwn yn gyfrifol am gysylltiadau o fewn y safle hwn i wefannau eraill.
Gwybodaeth a gasglwn
Nid yw Poco Bara Cyf. yn dal na chadw unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy'n pori trwy'r wefan, oni bai eich bod yn dewis rhoi eich manylion personol i ni o wirfodd trwy e-bost neu ar ffurflen ar-lein i ymholi neu ymgeisio am unrhyw un o'n gwasanaethau.
Yr hyn a wnawn â gwybodaeth bersonol
Pan fyddwch yn dewis llenwi unrhyw un o'n ffurflenni ar-lein defnyddir y wybodaeth bersonol a ddarparwch, gan Poco Bara Cyf. neu ddarparwr gwasanaeth trydydd parti sydd wedi'i gontractio i ni, i ddarparu'r gwasanaeth(au) a ofynoch amdanynt. Bydd Poco Bara Cyf. yn ymdrechu i ddiogelu eich gwybodaeth a bydd unrhyw ymwadiadau o'r wybodaeth honno yn unol â'n cofrestriad dan y Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd angen i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti a gontractwyd i'r cwmni gydymffurfio i'r un safonau.
Mae Poco Bara Cyf. wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data 1998, yn ogystal â hawliau pobl i gyfrinachedd a pharch tuag at breifatrwydd. Byddwn yn ymdrin â'ch gwybodaeth breifat â pharch. Fe'i cedwir yn ddiogel a dim ond y staff hynny â hawl i'w weld, sydd â mynediad iddo. Byddwn yn gwneud ein gorau i gadw gwybodaeth amdanoch yn gywir a diweddar. Pan nad oes angen i ni gadw gwybodaeth amdanoch mwyach, byddwn yn cael gwared ag ef mewn modd diogel. Os hoffech wybod mwy, gan gynnwys ynglŷn â sut ydym yn edrych ar ôl eich gwybodaeth, cysylltwch â: Andrew Hepworth. Mimosa Cegin & Bar. Mermaid Quay. Caerdydd. CF10 5AF
Gwybodaeth i wella ein gwefan
Ni fydd Poco Bara Cyf. ond yn casglu a chadw'r wybodaeth ganlynol a adnabyddir yn awtomatig : y dyddiad a'r amser, yr IP cychwynnol, y math o system bori a gweithredu a ddefnyddir, URL y dudalen gyfeirio, y gwrthrych a ofynwyd amdano, a statws cwblhau'r cais. Erys ymwelwyr i'n gwefan yn anhysbys gan nad yw'r data a gesglir yn gysylltiedig ag unrhyw wybodaeth bersonol. Bydd yr wybodaeth yn ein caniatáu i ddadansoddi problemau â'n gweinydd, ac asesu poblogrwydd y tudalennau ar y wefan, fel y gallwn barhau i wella ein safle.
Cwcis
Mae cwcis yn recordio patrwm eich defnydd arlein. Prif bwrpas Cwcis ydi i adnabod defnyddwyr a pharatoi tudalennau arbennig ar eu cyfer. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan sy’n defnyddio cwcis, mae’n bosib y bydd yn gofyn i chi gwblhau ffurflen gan ddarparu gwybodaeth megis eich enw a’ch diddordebau. Mae’r wybodaeth hwn yn cael ei becynnu i cwci ac fe’i anfonir at eich porwr sy’n ei storio tan eich ymweliad nesaf. Y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r wefan, bydd eich porwr yn anfonn cwci at weinydd y we. Gall y gweinydd ddefnyddio’r wybodaeth hwn i gyflwyno tudalennau sydd wedi eu dylunio’n arbennig at chwaeth y gynulleidfa darged. Er enghraifft, yn hytrach na gweld tudalen groeso gyffredinol, drwy gael cwcis ar eich peiriant, mae’n bosib i chi weld tudalen groeso gyda’ch enw arni.
Mae gan bob defnyddiwr yr opsiwn i’w cyfrifiaduron dderbyn cwcis, i’w hysbysu pan mae cwci am gael ei ddefnyddio, neu i beidio derbyn cwcis ar unrhyw bryd. Byddai dewis yr opsiwn olaf yma, yn golygu wrth gwrs, na fyddai rhannau o wefannau ar gael i’r defnyddiwr hwnnw all olygu yn y pendraw na fydd y defnyddiwr yn gallu cymryd mantais llawn o holl nodweddion gwefannau Poco Bara Cyf. Mae pob porwr yn wahanol felly cymrwch olwg ar ddewislen ‘Help’ eich porwr i ddysgu sut i newid eich opsiynau.
Os ydych wedi dewis yr opsiwn i beidio â derbyn cwcis, gallwch barhau i edrych ar wefannau Poco Bara Cyf. tan eich bod eisiau cofrestru am wasanaethau ar wefannau Poco Bara Cyf. Am wybodaeth bellach ynglyn â cwcis a sut i’w dileu, cymrwch olwg yma www.aboutcookies.org
Hysbysu ynghylch newidiadau
Wrth i Poco Bara Cyf. greu gwasanaethau newydd, efallai bydd hyn yn peri'r angen i addasu'r datganiad preifatrwydd hwn. Pe bai ein polisi preifatrwydd yn newid ar unrhyw adeg yn y dyfodol, bydd yn cael ei bostio ar y dudalen hon.
